Y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn dilyn cyfarfod y Bwrdd Taliadau ar 28 Tachwedd 2014

 

Annwyl Aelod Cynulliad

 

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei chweched cyfarfod yn 2014 ar 28 Tachwedd. Ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

 

Lansio'r Ymgynghoriad ar Gyflogau

Cafodd y Bwrdd drafodaeth fer ynghylch y sylw y mae'r lansiad wedi'i gael yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol, a'r ffaith ei fod wedi cael llawer mwy o sylw nag ymgyngoriadau eraill yr ydym wedi'u cynnal.

Nodwyd y sylw amrywiol a chytbwys o'r materion a godwyd yn sgil y cynigion. Rydym yn falch bod y cyfryngau a rhanddeiliaid sydd â diddordeb wedi llywio'r drafodaeth drwy gyflwyno nifer o ddadleuon i'r cyhoedd.

Edrychwn ymlaen at gael ymatebion ffurfiol cytbwys a rhesymol i'r ymgynghoriad. Y gobaith yw y bydd y rheini sydd wedi ymateb i'r cyhoeddiad cyntaf yn ystyried y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennym i lunio ein cynigion ac y byddant yn ymateb yn fanylach ynghylch a ydynt yn cytuno neu'n anghytuno â'n cynigion.

 

Gwasanaeth parhaus Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Yn flaenorol, roedd y Bwrdd wedi penderfynu ystyried ffyrdd y gallai aelod o staff cymorth a oedd yn colli ei swydd, ond a oedd yn cael ei ailgyflogi gan Aelod Cynulliad, wrthod ei daliad diswyddo ond cadw ei wasanaeth parhaus.

Mae'r cynnig hwn yn un sy'n apelio gan y byddai'n arbed arian, ac o fudd i staff.

Fodd bynnag, yn ôl y cyngor cyfreithiol a gawsom, ymddengys ei fod yn amhosibl gwneud hyn, felly cytunwyd y byddem yn ysgrifennu at gyd-sefydliadau mewn Seneddau eraill yn y DU i weld a ydynt wedi ystyried y mater. Mae Senedd yr Alban wedi rhoi trefniadau ar waith fel y gall yr Aelodau gyflogi eu staff ar y cyd. Mae'r Bwrdd o'r farn bod y syniad hwn mor gymhleth fel ei fod yn drech na’r ychydig ganlyniadau buddiol posibl.

Rydym yn siomedig na allwn feddwl am ffordd gyfreithlon a synhwyrol ar gyfer parhad cyflogaeth o dan yr amgylchiadau presennol. Ysgrifennodd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol at y Bwrdd mewn perthynas â'r mater hwn ac roedd o'r un farn.

 

Cydraddoldeb

Ystyriwyd adborth gan Diverse Cymru ynghylch ein hymgyngoriadau ar bensiynau a lwfansau, ac ystyriwyd sut y gallwn fynd i'r afael â'r rhain yn ein Hasesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb o ran y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Nododd y Bwrdd ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb am ein ffordd o weithio.

 

Pensiynau'r Aelodau

Ystyriodd y Bwrdd ohebiaeth gan ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn cyfredol, a thrafodwyd yn fanwl reolau'r cynllun drafft sy'n cael eu datblygu gyda'n cynghorwyr cyfreithiol o Wragge, Lawrence, Graham and Co.

Mae rhai materion allweddol y mae angen rhagor o arweiniad arnom gan Drysorlys Ei Mawrhydi, a'r gobaith yw y gallwn ddatblygu'r rhain fis nesaf.

 

Y camau nesaf

 

Fel yn achos y llythyrau blaenorol at yr Aelodau, rwy'n bwriadu cyhoeddi'r llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan maes o law.

 

Byddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y Grŵp ar gyfer yr Aelodau ar 3 Rhagfyr ac yn cynnal un o fy sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer yr holl Aelodau y prynhawn hwnnw. Byddaf yn parhau i gwrdd yn rheolaidd â'r grwpiau o gynrychiolwyr ar gyfer y staff cymorth a'r Aelodau.

 

Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n ymgynghori ar Lwfansau (dyddiad cau ar 15 Rhagfyr) a Chyflogau (dyddiad cau ar 12 Ionawr). Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn cyhoeddi pecyn drafft – gan ganiatáu i'r cyhoedd a'r Aelodau weld y darlun cyflawn o daliadau ar gyfer y Pumed Cynulliad a mynegi eu barn arno. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad ym mis Mai 2015, flwyddyn cyn yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru.

 

Rwy'n barod iawn i gwrdd ag Aelodau Cynulliad unigol neu grwpiau plaid i drafod unrhyw agwedd ar waith y Bwrdd. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cynulliad.cymrui wneud trefniadau. 

 

Sandy Blair CBE DL